£15.00
Mae PUM MILLTIR yn cynnwys 45 o luniau dyfrlliw wedi’u dewis o dros 150 a wnaed gan yr arlunydd o Fôn, Janet Bell, yn ystod Ionawr 2021. A’r genedl dan glo, gosododd her iddi’i hun i gwblhau o leiaf un darlun bob dydd wedi’i hysbrydoli gan ei phum milltir sgwâr, gyda’i llyfr braslunio, brwsys a thun newydd o ddyfrlliwiau yn ei llaw.
O draethau caregog Penmon i lan môr tywodlyd gwyntog Llanddona; o’r afon yn Lleiniog yn llifo i mewn i’r Fenai, i olygfeydd o fynyddoedd Eryri y tu hwnt; dyma ddogfen o’r cyfnod clo ym mhen de-ddwyreiniol Ynys Môn, a hynny drwy lygaid artist.
Each book comes hand signed by Janet Bell.
Bilingual. English and Welsh language.
104 Pages.
Printed on 150gsm paper.
SIZE | 30.5 x 15.5cm |